Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 4
Gorffennaf 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(30 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
[Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
David Rees (Aberafan): Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf ynghylch uno TATA steel a Thyssenkrupp ar y diwydiant dur yng Nghymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addsyg:
Caiff y cwestiwn isod ei ateb gan: Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a wnaed gan berchennog Trago Mills fod arwyddion Cymraeg yn annibendod gweledol?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau adrefnu llywodraeth leol yn dilyn ei sylwadau yng nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Mehefin 2018?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6756 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Medwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 27 Mehefin 2018.
(60 munud)
NDM6740 Lee Waters (Llanelli)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion.
2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda Capita.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn.
Tŷ'r Cyffredin - Y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol / Y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau - Carillion (Saesneg yn unig)
Swyddfa Archwilio Cymru - 'NHS England’s management of the primary care support services contract with Capita' (Saesneg yn unig)
Cyd-gyflwynwyr
Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
NDM6757 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru.
2. Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn gyffredinol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud anifeiliaid byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i ailboblogi'r ardaloedd hynny ag anifeiliaid byw.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi pwysigrwydd ffermio mynydd i gymunedau gwledig a'r economi wledig.
2. Yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu ffermwyr mynydd yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, fel yr amlygwyd yn yr adroddiad 'The Future of the Welsh Uplands after the Common Agricultural Policy'.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer ffermio mynydd yng Nghymru sy'n gwarchod ei gynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.
The Future of the Welsh Uplands after the Common Agricultural Policy (Saesneg yn unig)
(30 munud)
NDM6758 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru: ystyr ystadegau yn ymarferol; rôl Llywodraeth Cymru; ac effaith Brexit ar yr agenda tlodi plant
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.02, Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2018